
www.llyn.info
|
<Iaith/Language
Y wefan dros Ben Llyn!
Croeso
i Benrhyn Llyn, ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy'n
ymestyn i'r Mor Celtaidd o ogledd orllewin Cymru ym Mhrydain
Fawr.
Mae hud a chymeriad Cymreig unigryw yn perthyn i Lyn o hyd, ac
mae mor gryf ag erioed. Mae gan y penrhyn microhinsawdd unigryw
hefyd, sy?n cael budd o lif y gwlff, sy'n dod a thywydd
cynhesach a thymheredd uwch yn y mor yn ei sgil.
Diogelwyd yr iaith Gymraeg yn Llyn gan ucheldiroedd godidog
Eryri. A'r iaith yn chwim ail-sefydlu yng ngweddill Cymru, mae'r
orynys, sy'n ymestyn 30 milltir i'r gorllewin o'r mynyddoedd a lle
mae 75% o'r boblogaeth yn rhugl, yn magu hyder yn nyfodol yr
iaith.
Os teithiwch o'r De, dewch yn gyntaf ar draws tref Porthmadog
wrth draed Moel-y-gest, a'i harbwr bach tlws a phrif-stryd hir. Wrth
ddilyn arfordir Bae Tremadog byddwch yn troi cornel Cymru heibio
Criccieth a'i gastell ac i mewn i gyfaredd gorynys Llyn.
Hawdd deall paham mabwysiadwyd llysenw 'The Welsh Riviera' gan
ymwelwyr i'r ardal; mor gwresog, hinsawdd dymunol, milltiroedd o
draethau melyn deniadol, trefi darluniadol. Er nad yw Eryri, nol
ar brifdir Cymru, yn cymharu mewn uchder a chadwyni enwoca'r
Ddaear, trosglwyddir yn glir drwy ffotograffiau'r wefan hon, y
swyn a grëwyd pan mae traethau esmwythol yn gwynebu brigau
anghysbell yn diflannu odan niwl ag eira. Mudlosgi yn y fath
awyrgylch hudol wna Pwllheli, y brif dref answyddogol ar
arfordir ddeheuol yr orynys.
Wedi bachu bargen ym marchnad air-agored wythnosol Pwllheli
gellir ddilyn yr arfordir i ddarganfod Abersoch. Trawsffurfiwyd
cyfleusterau'r hen bentref pysgota yma i ateb angenrheidion y
gorewynnwyr sy'n manteisio ar draeth Borth Neigwl eang -
paradwys Cymraeg gorewynnwyr. Yn gwbwl wahanol, mae awyrgylch
ysbrydol Aberdaron, ym mhen pellaf Llyn, wedi goroesi yng
ngwyngalch pur ei strydoedd, wrth wasanaethu pererinion yn
encilio at Ynys Enlli ers canrifoedd. Pan fydd yr hin yn
caniatau, mae cwch yn medru eich cludo o Aberdaron i heddwch
Ynys Enlli lle, yn ol traddodiad, mae 20,000 o seintiau wedi eu
claddu. Mae'r ynys yn ymgeysydd gredadwy am safle Afallon -
traddodiad a'i atgyfnerthwyd yn ddiweddar gan ddarganfyddiad o'r
goeden afalau hynafol yn unigryw i'r ynys - 'Bardsey Apple'.
Ceir ddistawrwydd esmwythol wrth deithio i fyny drwy arfordir
mynyddog gogleddol Llyn. Mae'n werth ymdrechu i ben Carn Fadryn
yng nghanol yr orynys i weld yr olygfa banoramaidd 360°. Rhwng y
cilfachau niferus gellir mwynhau rhyddid ambell draeth hwylus,
fel Nefyn a Morfa Nefyn. Yn ymgryfhau'n ysbrydol wrth amsugno'r
gwelediad rhamantaidd o uchafbwynt Llyn, pwynt canolog Yr Eifl (564m), draw
at Eryri, mynyddoedd Wicklow yn yr Iwerddon, a phellach hyd yn
oed, deallir paham dewisodd ein hynafiaid adeiladu ar y brigau
yma. Ar gopa Tre'r Ceiri, ail-uchaf, saif un o engreifftiau
gorau Prydain o weddillion o'r Oesoedd Efydd a Haearn.
Dewch o hyd i dafarn enwoca Llyn, efallai, Ty Coch, ym Morth
Dinllaen hudol ac ar y ffordd allan o Lyn, at Gaernarfon, a'i
gastell byd-nodedig, mae pentrefi bychain Trefor, Clynnog Fawr,
Pontllyfni a Dinas Dinlle.
< Yn ol
adre
Llyn.info Heddiw >
|
Gwefeistr
Martyn Croydon
webmaster@llyn.info
Ysgrifenwyr Cyfrannu
Alan Gray
Ian Greenwood
Mwy am Llyn.info>
E-bost wythnosol am ddim>
|